4 Onid ei fraich ef a ataliodd yr haul,ac estyn un dydd dros ddau?
5 Galwodd ar y Goruchaf, y Duw nerthol,pan oedd ei elynion yn gwasgu arno ar bob tu,ac atebodd yr Arglwydd mawr ef â
6 grym nerthol storm o genllysg.Rhuthrodd ar y genedl mewn cyrch,a dinistrio'i wrthwynebwyr ar y goriwaered,i beri i'r cenhedloedd ddeall am ei arfogaeth lawn,fod ei filwriaeth dan ofal yr Arglwydd,oherwydd canlyn y Duw nerthol a wnaeth ef.
7 Yn nyddiau Moses hefyd fe brofodd ei deyrngarwch,ef a Chaleb fab Jeffune,trwy wrthwynebu'r cynulliadac atal y bobl rhag pechu,a rhoi taw ar eu grwgnach drygionus.
8 A dyma'r unig ddau a ddihangodd yn fyw,o'r chwe chan mil o wŷr traed,i gael mynediad i mewn i'w hetifeddiaethyn y wlad oedd yn llifeirio o laeth a mêl.
9 Rhoes yr Arglwydd i Caleb gryfdera barhaodd gydag ef hyd ei henaint,i'w alluogi i droedio ar uchelfannau'r wlady mae ei ddisgynyddion wedi ei meddiannu'n etifeddiaeth.
10 Felly daeth holl blant Israel i weldmai da yw canlyn yr Arglwydd.