1 Diolchaf i ti, fy Arglwydd a'm Brenin,a moliannaf di, O Dduw, fy Ngwaredwr;diolchaf i'th enw di.
2 Oherwydd buost yn amddiffynnydd ac yn gynorthwywr imi,a gwaredaist fy nghorff rhag distryw,rhag y fagl a osododd tafod enllibus,a rhag y gwefusau sy'n taenu celwydd;yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyrbuost yn gynorthwywr imi; gwaredaist fi,
3 yn unol â mawredd dy drugaredd a'th enw,rhag ysgyrnygu'r dannedd oedd yn barod i'm bwyta,ac o law'r rhai oedd yn ceisio fy mywyd.
4 Gwaredaist fi o'r blinderau lawer a ddioddefais,o fwg taglyd y fflamau a'm hamgylchynai,o ganol y tân nad oeddwn wedi ei gynnau,
5 o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw,a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—
6 y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin.Deuthum innau'n agos i farwolaeth,a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.