2 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, “Dos i mewn rhwng yr olwynion o dan y cerwbiaid, a llanw dy ddwylo â'r marwor tanllyd sydd rhwng y cerwbiaid, a'i wasgar dros y ddinas.” Gwnaeth hynny yn fy ngolwg.
3 Yr oedd y cerwbiaid yn sefyll ar ochr dde y deml pan aeth y dyn i mewn, ac yr oedd cwmwl yn llenwi'r cyntedd mewnol.
4 Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD wedi codi oddi ar y cerwbiaid a mynd at riniog y deml. Yr oedd y cwmwl yn llenwi'r adeilad, a'r cyntedd yn llawn o ddisgleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD.
5 Yr oedd sŵn adenydd y cerwbiaid i'w glywed cyn belled â'r cyntedd nesaf allan, fel llais y Duw Hollalluog pan fydd yn llefaru.
6 Pan orchmynnodd i'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, a dweud, “Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y cerwbiaid”, fe aeth yntau i mewn a sefyll yn ymyl yr olwyn.
7 Yna estynnodd un o blith y cerwbiaid ei law at y tân oedd rhwng y cerwbiaid; cododd beth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain; cymerodd yntau ef a mynd allan.
8 O dan adenydd y cerwbiaid fe welid rhywbeth tebyg i law ddynol.