18 Onid yw'n ddigon ichwi bori ar borfa dda heb ichwi sathru gweddill eich porfa â'ch traed, ac yfed dŵr clir heb ichwi faeddu'r gweddill â'ch traed?
19 A yw'n rhaid i'm praidd fwyta'r hyn a sathrwyd gennych, ac yfed yr hyn a faeddwyd â'ch traed?
20 “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrthynt: Byddaf fi fy hunan yn barnu rhwng defaid bras a defaid tenau.
21 Oherwydd eich bod yn gwthio ag ystlys ac ysgwydd, ac yn twlcio'r gweiniaid â'ch cyrn nes ichwi eu gyrru ar wasgar,
22 byddaf yn gwaredu fy mhraidd, ac ni fyddant mwyach yn ysglyfaeth, a byddaf yn barnu rhwng y naill ddafad a'r llall.
23 Byddaf yn gosod arnynt un bugail, fy ngwas Dafydd, a bydd ef yn gofalu amdanynt; ef fydd yn gofalu amdanynt ac ef fydd eu bugail.
24 Myfi, yr ARGLWYDD, fydd eu Duw, a'm gwas Dafydd fydd yn dywysog yn eu mysg; myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.