15 A ymffrostia'r fwyell yn erbyn y cymynwr?A ymfawryga'r llif yn erbyn yr hwn a'i tyn?Fel pe bai gwialen yn ysgwyd yr un sy'n ei chwifio,neu ffon yn trin un nad yw'n bren!
16 Am hynny bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn anfon clefyd i nychu ei ryfelwyr praff,a than ei ogoniant fe gyfyd twymynfel llosgiad tân.
17 Bydd Goleuni Israel yn dâna'i Un Sanctaidd yn fflam;fe lysg ac fe ysaei ddrain a'i fieri mewn un dydd.
18 Fe ddifoda ogoniant ei goedwig a'i ddoldir,fel claf yn nychu, yn enaid a chorff.
19 A bydd gweddill prennau ei goedwig mor brinnes y bydd plentyn yn gallu eu cyfrif.
20 Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhŷ Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.
21 Bydd gweddill yn dychwel, gweddill Jacob,at Dduw sydd yn gadarn.