4 i osgoi crymu ymhlith y carcharoriona syrthio ymhlith y lladdedigion?Er hynny, ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
5 “Gwae Asyria, gwialen fy llid;hi yw ffon fy nigofaint.
6 Anfonaf hi yn erbyn cenedl annuwiol,a rhof orchymyn iddi yn erbyn pobl fy nicter,i gymryd ysbail ac i anrheithio,a'u mathru dan draed fel baw'r heolydd.
7 Ond nid yw hi'n amcanu fel hyn,ac nid yw'n bwriadu felly;canys y mae ei bryd ar ddifethaa thorri ymaith genhedloedd lawer.
8 Fe ddywed,‘Onid yw fy swyddogion i gyd yn frenhinoedd?
9 Onid yw Calno fel Carchemis,a Hamath fel Arpad,a Samaria fel Damascus?’
10 Fel yr estynnais fy llaw hyd at deyrnasoedd eilunod,a oedd â'u delwau'n amlach na rhai Jerwsalem a Samaria,