1 Yr oracl am Fabilon; yr hyn a welodd Eseia fab Amos.
2 Dyrchafwch faner ar fynydd moel,codwch lef tuag atynt;amneidiwch â'ch dwyloiddynt ddod i mewn i byrth y pendefigion.
3 Gorchmynnais i'r rhai a gysegrais;ie, gelwais ar fy ngwŷr cedyrn i weithredu fy nicter,y rhai sy'n falch o'm gorchest.
4 Clywch, sŵn tyrfa ar y mynyddoedd,fel pobloedd heb rifedi!Clywch, dwndwr teyrnasoedd,fel cenhedloedd wedi eu crynhoi. ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnully llu ar gyfer brwydr.