8 Gwae'r rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,sy'n chwanegu cae at gaenes llyncu pob man,a'ch gadael chwi'n unig yng nghanol y tir.
9 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd yn fy nghlyw,“Bydd plastai yn anghyfannedd,a thai helaeth a theg heb drigiannydd.
10 Bydd deg cyfair o winllan yn dwyn un bath,a homer o had heb gynhyrchu dim ond un effa.”
11 Gwae'r rhai sy'n codi'n forei ddilyn diod gadarn,ac sy'n oedi hyd yr hwyrnes i'r gwin eu cynhyrfu.
12 Yn eu gwleddoedd fe geir y delyn a'r nabl,y tabwrdd a'r ffliwt a'r gwin;ond nid ystyriant waith yr ARGLWYDDnac edrych ar yr hyn a wnaeth.
13 Am hynny, caethgludir fy mhoblo ddiffyg gwybodaeth;bydd eu bonedd yn trengi o newyna'u gwerin yn gwywo gan syched.
14 Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,ac agor ei cheg yn ddiderfyn;fe lyncir y bonedd a'r werin,ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.