1 “Cod, llewyrcha,oherwydd daeth dy oleuni;llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
2 Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear,a'r fagddu dros y bobloedd,bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti,a gwelir ei ogoniant arnat.
3 Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni,a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.
4 “Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas;y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat,yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell,ac yn eu cludo ar eu hystlys;
5 pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi,bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd;troir atat gyflawnder y môr,a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.
6 Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio,daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba;byddant i gyd yn cludo aur a thus,ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.
7 Cesglir holl ddefaid Cedar atat,a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth;offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor,ac ychwanegaf at ogoniant fy nhŷ gogoneddus.