6 Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio,daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba;byddant i gyd yn cludo aur a thus,ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.
7 Cesglir holl ddefaid Cedar atat,a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth;offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor,ac ychwanegaf at ogoniant fy nhŷ gogoneddus.
8 “Pwy yw'r rhain sy'n ehedeg fel cwmwl,ac fel colomennod i'w nythle?
9 Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau Tarsis ar y blaen,i ddod â'th blant o bell,a'u harian a'u haur gyda hwy,er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel;oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.
10 “Dieithriaid fydd yn codi dy furiau,a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu,oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro,penderfynais dosturio wrthyt.
11 Bydd dy byrth yn agored bob amser,heb eu cau ddydd na nos,er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat,gyda'u brenhinoedd yn osgordd.
12 Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu;dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.