9 Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau Tarsis ar y blaen,i ddod â'th blant o bell,a'u harian a'u haur gyda hwy,er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel;oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.
10 “Dieithriaid fydd yn codi dy furiau,a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu,oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro,penderfynais dosturio wrthyt.
11 Bydd dy byrth yn agored bob amser,heb eu cau ddydd na nos,er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat,gyda'u brenhinoedd yn osgordd.
12 Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu;dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.
13 Daw gogoniant Lebanon atat—y ffynidwydd, y ffawydd a'r pren bocs—i harddu man fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle y gosodaf fy nhraed.
14 Daw plant dy ormeswyr atat yn ostyngedig;bydd pob un a'th ddiystyrodd yn ymostwng wrth dy draed;galwant di yn Ddinas yr ARGLWYDD,Seion Sanct Israel.
15 “Yn lle dy fod yn wrthodedig ac yn atgas,heb neb yn tramwyo trwot,fe'th wnaf yn ogoniant tragwyddol,ac yn llawenydd o oes i oes.