1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Edrych, yr wyf yn dy wneud fel Duw i Pharo, a bydd Aaron dy frawd yn broffwyd iti.
2 Yr wyt i fynegi'r cyfan yr wyf yn ei orchymyn i ti, a bydd Aaron dy frawd yn dweud wrth Pharo am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.
3 Byddaf finnau'n caledu calon Pharo; ac er imi amlhau fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft,
4 ni fydd ef yn gwrando arnoch. Yna byddaf yn gosod fy llaw ar yr Aifft ac yn rhyddhau fy mhobl Israel yn lluoedd o wlad yr Aifft, trwy weithredoedd nerthol o farn.