3 Syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho a dweud,
4 “Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd,
5 ac ni'th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd.
6 Gwnaf di'n ffrwythlon iawn; a gwnaf genhedloedd ohonot, a daw brenhinoedd allan ohonot.
7 Sefydlaf fy nghyfamod yn gyfamod tragwyddol â thi, ac â'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau, i fod yn Dduw i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl.
8 A rhoddaf y wlad yr wyt yn crwydro ynddi, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl, a byddaf yn Dduw iddynt.”
9 Dywedodd Duw wrth Abraham, “Cadw di fy nghyfamod, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau.