21 Yna cloddiasant bydew arall, a bu cynnen ynglŷn â hwnnw hefyd; felly enwodd ef Sitna.
22 Symudodd oddi yno a chloddio pydew arall, ac ni bu cynnen ynglŷn â hwnnw; felly enwodd ef Rehoboth, a dweud, “Rhoes yr ARGLWYDD le helaeth i ni, a byddwn ffrwythlon yn y wlad.”
23 Aeth Isaac oddi yno i Beerseba.
24 Ac un noson ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo, a dweud, “Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi. Bendithiaf di ac amlhaf dy ddisgynyddion er mwyn fy ngwas Abraham.”
25 Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw'r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno.
26 Yna daeth Abimelech ato o Gerar, gydag Ahussath ei gynghorwr a Phichol pennaeth ei fyddin.
27 Gofynnodd Isaac iddynt, “Pam yr ydych wedi dod ataf, gan i chwi fy nghasáu a'm gyrru oddi wrthych?”