18 Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.
19 Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.
20 Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, “Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,
21 a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,
22 a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn dŷ i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti.”