26 A dywedodd Laban wrth Jacob, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud? Yr wyt wedi fy nhwyllo, a dwyn ymaith fy merched fel caethion rhyfel.
27 Pam y ffoaist yn ddirgel a'm twyllo? Pam na roist wybod i mi, er mwyn imi gael dy hebrwng yn llawen â chaniadau a thympan a thelyn?
28 Ni adewaist imi gusanu fy meibion a'm merched; yr wyt wedi gwneud peth ffôl.
29 Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, ‘Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.’
30 Diau mai am iti hiraethu am dŷ dy dad yr aethost ymaith, ond pam y lladrateaist fy nuwiau?”
31 Yna atebodd Jacob Laban, “Ffoais am fod arnaf ofn, gan imi feddwl y byddit yn dwyn dy ferched oddi arnaf trwy drais.
32 Ond y sawl sy'n cadw dy dduwiau, na chaffed fyw! Yng ngŵydd ein brodyr myn wybod beth o'th eiddo sydd gyda mi, a chymer ef.” Ni wyddai Jacob mai Rachel oedd wedi eu lladrata.