41 bûm am ugain mlynedd yn dy dŷ; gweithiais iti am bedair blynedd ar ddeg am dy ddwy ferch, ac am chwe blynedd am dy braidd, a newidiaist fy nghyflog ddengwaith.
42 Oni bai fod Duw fy nhad, Duw Abraham ac Arswyd Isaac o'm plaid, diau y buasit wedi fy ngyrru i ffwrdd yn waglaw. Gwelodd Duw fy nghystudd a llafur fy nwylo, a neithiwr ceryddodd di.”
43 Atebodd Laban a dweud wrth Jacob, “Fy merched i yw'r merched, a'm plant i yw'r plant, a'm praidd i yw'r praidd, ac y mae'r cwbl a weli yn eiddo i mi. Ond beth a wnaf heddiw ynghylch fy merched hyn, a'r plant a anwyd iddynt?
44 Tyrd, gwnawn gyfamod, ti a minnau; a bydd yn dystiolaeth rhyngom.”
45 Felly cymerodd Jacob garreg a'i gosod i fyny'n golofn.
46 Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig,” a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd.
47 Enwodd Laban hi Jegar-sahadwtha, ond galwodd Jacob hi Galeed.