16 Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, “Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf.”
17 Gorchmynnodd i'r cyntaf, “Pan ddaw fy mrawd Esau i'th gyfarfod a gofyn, ‘I bwy yr wyt yn perthyn? I ble'r wyt ti'n mynd? A phwy biau'r rhain sydd dan dy ofal?’
18 yna dywed, ‘Dy was Jacob biau'r rhain; anfonwyd hwy'n anrheg i'm harglwydd Esau, ac y mae Jacob ei hun yn ein dilyn.’ ”
19 Rhoes yr un gorchymyn i'r ail a'r trydydd, ac i bob un oedd yn canlyn y gyrroedd, a dweud, “Yr un peth a ddywedwch chwithau wrth Esau pan ddewch i'w gyfarfod,
20 ‘Y mae dy was Jacob yn ein dilyn.’ ” Hyn oedd yn ei feddwl: “Enillaf ei ffafr â'r anrheg sy'n mynd o'm blaen; wedyn, pan ddof i'w gyfarfod, efallai y bydd yn fy nerbyn.”
21 Felly anfonodd yr anrheg o'i flaen, ond treuliodd ef y noson honno yn y gwersyll.
22 Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc.