9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cafwyd cynllwyn ymhlith pobl Jwda a thrigolion Jerwsalem.
10 Troesant yn ôl at ddrygioni eu hynafiaid gynt pan wrthodent wrando fy ngeiriau. Aethant ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu, a thorrodd tŷ Israel a thŷ Jwda fy nghyfamod, a wneuthum â'u hynafiaid.
11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwyf am ddwyn drwg arnynt na allant ei osgoi; a gwaeddant arnaf, ond ni wrandawaf.
12 Yna fe â dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem i weiddi ar y duwiau yr arferent arogldarthu iddynt, ond yn sicr ni allant hwy eu gwaredu yn amser eu drygfyd.
13 Yn wir, y mae dy dduwiau mor aml â'th ddinasoedd, O Jwda, ac wrth nifer heolydd Jerwsalem codasoch allorau er cywilydd, allorau i arogldarthu i Baal.”
14 “Ond amdanat ti, paid â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd.”
15 “Beth sydd a wnelo f'anwylyd â'm tŷ,a hithau'n cyflawni gweithredoedd ysgeler?A all llwon, neu gig sanctaidd, droi dy ddinistr heibio,fel y gelli lawenychu?