1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:
2 “Paid â chymryd iti wraig; na fydded i ti feibion na merched yn y lle hwn.
3 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y bechgyn a'r genethod a enir yn y lle hwn, ac am y mamau a'u dwg hwy a'r hynafiaid a'u cenhedla yn y wlad hon:
4 ‘Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu hôl ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.’
5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Paid â mynd i dŷ galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd fy nghariad a'm tosturi.