18 Yn gyntaf, mi dalaf yn ddwbl am eu drygioni a'u pechod, am iddynt halogi fy nhir â chelanedd eu duwiau ffiaidd; llanwodd eu ffieidd-dra fy etifeddiaeth.”
19 O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid,fy noddfa mewn dydd o flinder,atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud,“Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd,oferedd, a phethau di-les.
20 A wna rhywun dduw iddo'i hun?Nid yw'r rhain yn dduwiau.”
21 “Am hynny, wele, paraf iddynt wybod;y waith hon mi ddangosaf iddynt fy nerth a'm grym.A deallant mai'r ARGLWYDD yw fy enw.”