20 a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod;
21 Edom a Moab a phobl Ammon;
22 holl frenhinoedd Tyrus a holl frenhinoedd Sidon, a brenhinoedd yr ynysoedd dros y môr;
23 Dedan a Tema a Bus; pawb sydd â'u talcennau'n foel;
24 holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch;
25 holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media;
26 holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar ôl y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach a gaiff yfed ar eu hôl hwy.