29 Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.’
30 Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud,”“Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder;o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef;rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle;gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin,yn erbyn holl breswylwyr y tir.
31 Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd,canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd,ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd,ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.”
32 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall;cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.”
33 “Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.”
34 Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch;ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd;canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru,ac fe gwympwch fel llydnod dethol.
35 Collir lloches gan y bugeiliaid,a dihangfa gan bendefigion y praidd.