16 Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser,” medd yr ARGLWYDD, “pan na ddywedir mwyach, ‘Arch cyfamod yr ARGLWYDD’, ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld â hi, ac ni wneir hynny mwyach.
17 Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.
18 Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.”
19 “Dywedais, ‘Sut y gosodaf di ymhlith y plant,i roi i ti dir dymunol,ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?’A dywedais, ‘Fe'm gelwi, “Fy nhad”,ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.’
20 Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar,felly, dŷ Israel, y buoch yn anffyddlon i mi,” medd yr ARGLWYDD.
21 Clyw! Ar y moelydd clywir wylofain ac ymbil tŷ Israel,am iddynt wyro eu ffordd ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw.
22 “Dychwelwch, blant anffyddlon; iachâf eich ysbryd anffyddlon.”“Wele, fe ddown atat, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD ein Duw.