21 Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg;paraf iddo nesáu, ac fe ddaw ataf;canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?” medd yr ARGLWYDD.
22 “A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.”
23 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,corwynt yn chwyrlïo, yn troi uwchben y drygionus.
24 Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni;yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.