7 peidiwch ag adeiladu tŷ, na hau had, na phlannu gwinllan, na meddiannu dim; ond lle bynnag y byddwch yn aros, trigwch mewn pebyll bob amser, er mwyn ichwi fyw am ddyddiau lawer yn y wlad lle'r ydych.’
8 A buom yn ufudd i lais Jonadab, mab Rechab ein tad, ym mhob peth a orchmynnodd i ni; nid ydym ni na'n gwragedd na'n meibion na'n merched erioed wedi yfed gwin,
9 nac adeiladu tai i fyw ynddynt, nac wedi cael na gwinllan na maes na had.
10 Yr ydym yn byw mewn pebyll, ac yn gwneud popeth fel y gorchmynnodd Jonadab ein tad inni.
11 Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, ‘Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria’; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem.”
12 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
13 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dos a llefara wrth bobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Oni chymerwch eich disgyblu i wrando fy ngeiriau?’ medd yr ARGLWYDD.