9 nac adeiladu tai i fyw ynddynt, nac wedi cael na gwinllan na maes na had.
10 Yr ydym yn byw mewn pebyll, ac yn gwneud popeth fel y gorchmynnodd Jonadab ein tad inni.
11 Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, ‘Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria’; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem.”
12 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
13 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dos a llefara wrth bobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Oni chymerwch eich disgyblu i wrando fy ngeiriau?’ medd yr ARGLWYDD.
14 ‘Fe gadwyd geiriau Jonadab fab Rechab pan orchmynnodd i'w blant nad yfent win, oherwydd nid ydynt yn ei yfed hyd heddiw, ond y maent yn ufuddhau i orchymyn eu tad. Ond er i mi lefaru'n daer wrthych, nid ydych chwi'n ufuddhau i mi.
15 Anfonais atoch fy holl weision, y proffwydi, a'u hanfon yn gyson gan ddweud: “Trowch yn wir bob un o'i ffordd ddrygionus, a gwella'ch gweithredoedd; peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu. Yna cewch fyw yn y tir a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.” Ond ni wrandawsoch arnaf fi nac ufuddhau.