27 Oni bu Israel yn gyff gwawd i ti,er nad oedd ymysg lladron,fel yr ysgydwit dy ben wrth sôn amdani?
28 “Cefnwch ar y dinasoedd, a thrigwch yn y creigiau,chwi breswylwyr Moab;byddwch fel colomen yn nythuyn ystlysau'r graig uwch yr hafn.
29 Clywsom am falchder Moab,ac un falch iawn yw hi—balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.
30 Mi wn,” medd yr ARGLWYDD, “ei bod yn haerllug;y mae ei hymffrost yn gelwydd,a'i gweithredoedd yn ffals.
31 Am hynny fe udaf dros Moab;llefaf dros Moab i gyd,griddfanaf dros bobl Cir-heres.
32 Wylaf drosot yn fwy nag yr wylir dros Jaser,ti, winwydden Sibma;estynnodd dy gangau hyd y môr,yn cyrraedd hyd Jaser;ond rhuthrodd yr anrheithiwr ar dy ffrwythauac ar dy gynhaeaf gwin.
33 Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoleddyn y doldir ac yng ngwlad Moab;gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau,ac ni fydd neb yn sathru â bloddest—bloddest nad yw'n floddest.