6 Gwrandewch yn awr ar fy achos,a rhowch ystyriaeth i'm dadl.
7 A ddywedwch gelwydd dros Dduw,a thwyll er ei fwyn?
8 A gymerwch chwi ei blaid,a dadlau dros Dduw?
9 A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi?A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?
10 Bydd ef yn sicr o'ch cerydduos cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.
11 Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?
12 Geiriau lludw yw eich gwirebau,a chlai yw eich amddiffyniad.