1 Dywedodd Elihu:
2 “Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion;clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.
3 Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau,fel y profir bwyd gan daflod y genau.
4 Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn,a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.
5 Dywedodd Job, ‘Yr wyf yn gyfiawn,ond trodd Duw farn oddi wrthyf.