25 Y mae'n adnabod eu gweithredoedd,ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson.
26 Y mae'n eu taro o achos eu drygioni,a hynny yng ngŵydd pawb,
27 am eu bod yn troi oddi wrtho,ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd.
28 Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato,ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.
29 Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg;y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais—boed genedl neu unigolyn—
30 rhag i neb annuwiol lywodraethu,a maglu pobl.
31 “Os dywed un wrth Dduw,‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;