32 am na allaf fi weld, hyffordda di fi;os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’—
33 a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybioy bydd ef yn fodlon ar hynny?Ti sydd i ddewis, nid fi;traetha yr hyn a wyddost.
34 Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi,a rhai doeth yn gwrando arnaf.
35 Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried,ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.
36 O na phrofid Job i'r eithaf,gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!
37 Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod,yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith,ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw.”