7 Pwy sydd fel Job,yn drachtio dirmyg fel dŵr,
8 yn cadw cwmni â rhai ofer,ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?
9 Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i nebymhyfrydu yn Nuw.’
10 “Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf.Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni,ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.
11 Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred,a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.
12 Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg,ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.
13 Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear,a rhoi'r byd cyfan iddo?