1 Yna gweddïodd Jona ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn a dweud,
2 “Gelwais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi;o ddyfnder Sheol y gwaeddais, a chlywaist fy llais.
3 Teflaist fi i'r dyfnder, i eigion y môr, a'r llanw yn f'amgylchu;yr oedd dy holl donnau a'th lifeiriant yn mynd dros fy mhen.
4 Yna dywedais, ‘Fe'm gyrrwyd allan o'th olwg di;sut y caf edrych eto ar dy deml sanctaidd?’
5 Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas;clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd;