5 Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas;clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd;
6 euthum i lawr i'r wlad y caeodd ei bolltau arnaf am byth.Eto, dygaist fy mywyd i fyny o'r pwll, O ARGLWYDD fy Nuw.
7 Pan deimlais fy hun yn llewygu, cofiais am yr ARGLWYDD,a daeth fy ngweddi atat i'th deml sanctaidd.
8 Y mae'r rhai sy'n addoli eilunod gwag yn gwadu eu teyrngarwch.
9 Ond aberthaf i ti â chân o ddiolch.Talaf yr hyn a addunedais;i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu.”
10 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, a chwydodd yntau Jona ar y lan.