1 Ar ôl iddi beidio â'i llefain ar Dduw Israel, a gorffen yr holl eiriau hyn,
2 cododd Judith o'r fan lle y gorweddai ar ei hyd, galwodd ar ei morwyn, ac aeth i lawr i'r tŷ lle'r arferai dreulio'r Sabothau a'i dyddiau gŵyl.
3 Wedi tynnu'r sachliain a osodasai amdani, a diosg gwisg gweddwdod, ac ymolchi drosti i gyd, fe'i heneiniodd ei hun â pheraroglau drud, trin ei gwallt a rhoi penwisg ar ei phen. Rhoes amdani'r dillad yr arferai eu gwisgo yn y dyddiau llawen pan oedd ei gŵr Manasse yn fyw.
4 Wedi rhoi sandalau am ei thraed, gwisgodd yddfdorchau, breichledau, modrwyau, clustlysau a'i holl emau. Fe'i haddurnodd ei hun yn ddigon deniadol i hudo unrhyw ddyn a'i gwelai.
5 Yna, rhoddodd i'w morwyn gostrel o win a stên o olew, ac wedi llenwi cod â bara'r radell, cacenni ffigys a thorthau o fara peilliaid, a phacio'r llestri gyda'i gilydd, rhoes y rhain hefyd i'w gofal.
6 Aethant allan at borth tref Bethulia, a chael Osias a henuriaid y dref, Chabris a Charmis, yn sefyll yno.