13 Yr wyf ar fy ffordd at Holoffernes, prif gadfridog eich byddin, er mwyn rhoi gwybodaeth gywir iddo. Hysbysaf ger ei fron y ffordd i fynd a meddiannu'r holl ucheldir, a hynny heb golli'r un o'i ddynion, na cholli bywyd neb.”
14 Pan glywodd y gwŷr ei geiriau edrychasant ar ei hwyneb; yn eu golwg hwy yr oedd ei phrydferthwch yn eithriadol. Meddent wrthi:
15 “Arbedaist dy fywyd wrth frysio i lawr at ein harglwydd. Yn awr, dos i'w babell, a daw rhai o'n plith i'th hebrwng a'th drosglwyddo i'w ddwylo.
16 Pan fyddi'n sefyll o'i flaen, paid ag ofni yn dy galon, ond dywed wrtho yr hyn a ddywedaist wrthym ni, a chei dy drin yn dda ganddo.”
17 Yna, wedi dewis cant o ddynion o'u plith, fe'u hanfonasant yn osgordd iddi hi a'i morwyn, a'u harwain i babell Holoffernes.
18 Yna bu cynnwrf drwy'r holl wersyll, wrth i'r newydd am ddyfodiad Judith ymledu o babell i babell. A hithau'n sefyll y tu allan i babell Holoffernes yn disgwyl iddynt ddweud wrtho amdani, fe'i hamgylchynwyd gan dyrfa fawr.
19 Yr oeddent yn synnu at ei phrydferthwch, ac o'i hachos hi yn synnu at yr Israeliaid, a'r naill yn dweud wrth y llall: “Pwy a all fychanu'r bobl hyn, a'r fath wragedd yn eu plith? Gwell fydd peidio â gadael yn fyw yr un ohonynt; os caiff y rhain fynd yn rhydd, byddant yn gallu hudo'r holl fyd.”