27 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd wedi lledu ar y croen bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
28 Ond os bydd y smotyn wedi aros yr un fath, a heb ledu ar y croen ac wedi gwywo, chwydd o'r llosg ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân; craith y llosg ydyw.
29 “Pan fydd gan ŵr neu wraig ddolur ar y pen neu'r wyneb, bydd yr offeiriad yn ei archwilio,
30 ac os bydd yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a blew melyn main ynddo, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn aflan; clafr, dolur heintus, ar y pen neu'r wyneb ydyw.
31 Os bydd yr offeiriad yn archwilio'r math hwn o ddolur ac yn gweld nad yw'n ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a heb flew du ynddo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
32 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur, ac os bydd y clafr heb ledu, a heb flew melyn ynddo a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen,
33 y mae'r claf i eillio, ac eithrio lle mae'r clafr, a bydd yr offeiriad yn ei gadw o'r neilltu am saith diwrnod arall. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r clafr eilwaith,