32 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur, ac os bydd y clafr heb ledu, a heb flew melyn ynddo a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen,
33 y mae'r claf i eillio, ac eithrio lle mae'r clafr, a bydd yr offeiriad yn ei gadw o'r neilltu am saith diwrnod arall. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r clafr eilwaith,
34 ac os bydd heb ledu ar y croen a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân. Y mae'r claf i olchi ei ddillad, ac yna bydd yn lân.
35 Ond os bydd y clafr yn lledu ar y croen ar ôl ei gyhoeddi'n lân,
36 bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y clafr wedi lledu ar y croen, nid oes rhaid i'r offeiriad chwilio am flew melyn; y mae'n aflan.
37 Os gwêl yr offeiriad fod y clafr wedi aros yr un fath, a blew du yn tyfu ynddo, y mae'r clafr wedi gwella. Y mae'r claf yn lân, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.
38 “Pan fydd gan ŵr neu wraig smotiau gwyn ar y croen,