49 a bod yr haint yn ymddangos yn wyrdd neu'n goch yn y dilledyn neu'r lledr, mewn ystof neu anwe, neu unrhyw beth a wnaed o ledr, y mae'n heintus oddi wrth ddolur, a dylid ei ddangos i'r offeiriad.
50 Bydd yr offeiriad yn archwilio'r haint, ac yn gosod y peth y mae'r haint ynddo o'r neilltu am saith diwrnod.
51 Ar y seithfed dydd bydd yn ei archwilio, ac os bydd yr haint wedi lledu yn y dilledyn, yn yr ystof neu yn yr anwe, neu yn y lledr, i ba beth bynnag y defnyddir ef, y mae'n haint dinistriol; y mae'n aflan.
52 Dylai losgi'r dilledyn, neu'r ystof neu'r anwe o wlân neu liain, neu'r peth lledr y mae'r haint ynddo; y mae'n haint dinistriol, a rhaid ei losgi yn y tân.
53 “Os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a chael nad yw'r haint wedi lledu trwy'r dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu'r deunydd lledr,
54 bydd yn gorchymyn golchi'r dilledyn y bu'r haint ynddo, ac yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall.
55 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar ôl ei olchi, ac os na fydd yr haint wedi newid ei liw, hyd yn oed os na fydd wedi lledu, y mae'n aflan; bydd yn ei losgi yn y tân, boed y smotyn heintus y naill du neu'r llall.