19 yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law,
20 yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig.
21 Nid yw'r un o ddisgynyddion Aaron yr offeiriad sydd â nam arno i ddynesu i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; am fod nam arno, nid yw i ddynesu i gyflwyno bwyd ei Dduw.
22 Caiff fwyta bwyd ei Dduw o'r offrymau sanctaidd a'r offrymau sancteiddiaf,
23 ond oherwydd bod nam arno ni chaiff fynd at y llen na dynesu at yr allor, rhag iddo halogi fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.’ ”
24 Fel hyn y dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel.