8 Yr wyt i'w hystyried yn sanctaidd, oherwydd eu bod yn cyflwyno bwyd dy Dduw; byddant yn sanctaidd i ti, oherwydd sanctaidd ydwyf fi, yr ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio.
9 Os bydd merch i offeiriad yn ei halogi ei hun trwy fynd yn butain, y mae'n halogi ei thad; rhaid ei llosgi yn y tân.
10 “ ‘Am yr archoffeiriad, yr un o blith ei frodyr y tywalltwyd olew'r eneinio ar ei ben ac a ordeiniwyd i wisgo'r dillad, nid yw ef i noethi ei ben na rhwygo'i ddillad.
11 Nid yw i fynd i mewn at gorff marw, na'i halogi ei hun hyd yn oed er mwyn ei dad na'i fam.
12 Nid yw i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo halogi cysegr ei Dduw, oherwydd fe'i cysegrwyd ag olew eneinio ei Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
13 Y mae i briodi gwyryf yn wraig.
14 Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth,