30 rhaid ei fwyta yr un diwrnod; peidiwch â gadael dim ohono hyd y bore. Myfi yw'r ARGLWYDD.
31 “Cadwch fy ngorchmynion a'u gwneud; myfi yw'r ARGLWYDD.
32 Peidiwch â halogi fy enw sanctaidd; rhaid fy sancteiddio ymysg pobl Israel. Myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio,
33 ac a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, i fod yn Dduw ichwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.”