7 Wedi i'r haul fachlud, bydd yn lân, ac yna caiff fwyta o'r offrymau sanctaidd, oherwydd dyna'i fwyd.
8 Nid yw i'w halogi ei hun trwy fwyta unrhyw beth sydd wedi marw neu wedi ei larpio gan anifail. Myfi yw'r ARGLWYDD.
9 “ ‘Y mae'r offeiriaid i gadw fy ngofynion rhag iddynt bechu, a marw am eu halogi. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.
10 “ ‘Nid yw neb estron i fwyta'r offrymau sanctaidd, neb sy'n westai neu'n was cyflog i offeiriad.
11 Ond os bydd offeiriad yn prynu caethwas am arian, neu os bydd caethwas wedi ei eni yn ei dŷ, caiff y rheini fwyta'i fwyd.
12 Os bydd merch i offeiriad yn priodi unrhyw un heblaw offeiriad, ni chaiff hi fwyta dim o'r offrymau sanctaidd.
13 Ond os bydd merch i offeiriad yn weddw neu'n cael ei hysgaru, a hithau heb blant ac yn dychwelyd i fyw yn nhŷ ei thad fel pan oedd yn ifanc, yna caiff hi fwyta o fwyd ei thad. Nid yw neb arall i fwyta o'r bwyd.