16 Y mae i dalu am y pechod a wnaeth ynglŷn â'r pethau sanctaidd, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r offeiriad; yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto gyda hwrdd yn offrwm dros gamwedd, ac fe faddeuir iddo.
17 “Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, er nad yw'n ymwybodol o hynny, y mae'n euog ac yn gyfrifol am ei drosedd.
18 Dylai ddod â hwrdd o'r praidd at yr offeiriad yn offrwm dros gamwedd, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol. Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y trosedd a gyflawnodd yn anfwriadol, ac fe faddeuir iddo.
19 Dyma fydd yr offrwm dros gamwedd, oherwydd iddo wneud camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD.”