10 Clywodd Moses y teuluoedd i gyd yn wylo, pob un yn nrws ei babell; enynnodd llid yr ARGLWYDD yn fawr, a bu'n ddrwg gan Moses.
11 Yna dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Pam y gwnaethost dro gwael â'th was? Pam na chefais ffafr yn dy olwg, fel dy fod wedi gosod baich yr holl bobl hyn arnaf?
12 Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, ‘Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos â hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid’?
13 O ble y caf fi gig i'w roi i'r holl bobl hyn? Y maent yn wylo ac yn dweud wrthyf, ‘Rho inni gig i'w fwyta.’
14 Ni allaf gario'r holl bobl hyn fy hunan; y mae'r baich yn rhy drwm imi.
15 Os fel hyn yr wyt am wneud â mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni.”
16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla i mi ddeg a thrigain o henuriaid Israel, rhai y gwyddost eu bod yn henuriaid y bobl ac yn swyddogion drostynt, a chymer hwy i babell y cyfarfod, a gwna iddynt sefyll yno gyda thi.