18 Dywed wrth y bobl, ‘Ymgysegrwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig; oherwydd yr ydych wedi wylo yng nghlyw'r ARGLWYDD, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr oeddem yn dda ein byd yn yr Aifft.” Felly fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chewch fwyta.
19 Byddwch yn ei fwyta nid am un diwrnod, na dau, na phump, na deg, nac ugain,
20 ond am fis cyfan, nes y bydd yn dod allan o'ch ffroenau, a chwithau'n ei gasáu; oherwydd yr ydych wedi gwrthod yr ARGLWYDD, sydd yn eich plith, trwy wylo yn ei glyw, a dweud, “Pam y daethom allan o'r Aifft?” ’ ”
21 Ond dywedodd Moses, “Dyma fi yng nghanol chwe chan mil o wŷr traed, ac eto dywedi, ‘Rhof iddynt gig i'w fwyta am fis cyfan!’
22 A leddir defaid a gwartheg er mwyn eu digoni? Neu a fydd holl bysgod y môr, wedi eu casglu ynghyd, yn ddigon ar eu cyfer?”
23 Atebodd yr ARGLWYDD ef, “A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr? Cei weld yn y man a wireddir f'addewid iti ai peidio.”
24 Aeth Moses ymaith a mynegi i'r bobl eiriau'r ARGLWYDD; yna casglodd ddeg a thrigain o henuriaid y bobl a'u gosod o amgylch y babell.