1 Ar ôl cyrraedd Ecbatana, dywedodd Tobias wrtho, “Asarias, fy mrawd, dos â mi ar f'union at Ragwel ein perthynas.” Daeth ag ef, felly, i dŷ Ragwel, lle cawsant ef yn eistedd wrth borth y cyntedd. Hwy oedd gyntaf â'u cyfarchiad, ac yntau'n ateb, “Croeso cynnes i chwi, frodyr. Y mae'n dda gennyf eich bod wedi cyrraedd yn ddiogel.”
2 Aeth â hwy i mewn i'r tŷ, ac meddai wrth Edna ei wraig, “Onid yw'r gŵr ifanc yma'n debyg i'm perthynas Tobit?”
3 A dyma Edna yn eu holi: “O ble'r ydych chwi'n dod, frodyr?” “Yr ydym ni,” atebasant, “yn perthyn i feibion Nafftali, y rheini sydd mewn caethiwed yn Ninefe.”
4 Holodd ymhellach: “A ydych chwi'n adnabod Tobit ein perthynas?” “Ydym,” meddent, “yr ydym yn ei adnabod.” “A yw ef yn iach?” gofynnodd hi.
5 “Y mae'n fyw ac yn iach,” meddent, a Tobias yn ychwanegu, “Ef yw fy nhad.”
6 Neidiodd Ragwel ar ei draed a'i gusanu. Â dagrau yn ei lygaid llefarodd y geiriau hyn wrtho: “Bendith arnat, fy machgen! Rwyt ti'n fab i dad nobl a chywir.