5 “Y mae'n fyw ac yn iach,” meddent, a Tobias yn ychwanegu, “Ef yw fy nhad.”
6 Neidiodd Ragwel ar ei draed a'i gusanu. Â dagrau yn ei lygaid llefarodd y geiriau hyn wrtho: “Bendith arnat, fy machgen! Rwyt ti'n fab i dad nobl a chywir.
7 Y mae'n drueni o'r mwyaf fod dyn mor gyfiawn ac aml ei gymwynasau wedi colli ei olwg.” Rhoes ei freichiau am wddf Tobias ei berthynas, ac wylo.
8 Torrodd Edna ei wraig i wylo o achos Tobit, a'r un modd Sara eu merch. Lladdodd Ragwel fyharen o'r praidd yn arwydd o'i groeso brwd iddynt.Wedi iddynt ymolchi drostynt a golchi eu dwylo, cymerasant eu lle wrth y bwrdd cinio. Yna gofynnodd Tobias i Raffael, “Asarias, fy mrawd, dywed wrth Ragwel am roi Sara fy mherthynas imi.”
9 Digwyddodd Ragwel glywed ei eiriau, a dywedodd wrth y llanc, “Bwyta, yf a bydd lawen y nos hon,
10 oherwydd nid eiddo neb ond ti, fy mrawd, yw'r fraint o gael Sara fy merch yn wraig iddo. Yn yr un modd hefyd nid oes hawl gennyf finnau i'w rhoi hi i'r un gŵr arall ond ti, oherwydd ti yw fy mherthynas agosaf. Ond ni allaf beidio â datgelu'r caswir iti, fy machgen.
11 Rwyf wedi ei rhoi hi'n wraig i saith gŵr o blith ein brodyr, ond bu farw pob un ohonynt yr union noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi. Ond bellach bwyta ac yf, fy machgen. Bydd yr Arglwydd yn drugarog wrthych.” Ond atebodd Tobias, “Nid wyf am fwyta nac yfed dim oll yma cyn iti ddyfarnu ynglŷn â'm cais.”