34 Ni fu iddynt ddinistrio'r bobloeddy dywedodd yr ARGLWYDD amdanynt,
35 ond cymysgu gyda'r cenhedloedd,a dysgu gwneud fel hwythau.
36 Yr oeddent yn addoli eu delwau,a bu hynny'n fagl iddynt.
37 Yr oeddent yn aberthu eu meibiona'u merched i'r demoniaid.
38 Yr oeddent yn tywallt gwaed dieuog,gwaed eu meibion a'u merchedyr oeddent yn eu haberthu i ddelwau Canaan;a halogwyd y ddaear â'u gwaed.
39 Felly aethant yn aflan trwy'r hyn a wnaent,ac yn buteiniaid trwy eu gweithredoedd.
40 Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;